Dechrau da Morgannwg yn parhau

Marcus North Image copyright PA
Image caption Sgoriodd y capten Marcus North 137 o rediadau heb fod allan

Mae dechrau gwych cricedwyr Morgannwg i'w tymor yn y gystadleuaeth 40 pelawd yn parhau ar ôl iddyn nhw guro Middlesex o 26 o rediadau yn Lord's.

Y fuddugoliaeth ddydd Llun oedd eu hail yn olynol.

Sgoriodd y capten Marcus North 137 o rediadau heb fod allan.

Cafodd gefnogaeth gref gan Jim Allenby (69 heb fod allan), wrth i Forgannwg gyrraedd 280-3 yn eu 40 pelawd.

Yna cipiodd Allenby ddwy wiced, gyda Michael Hogan yn cipio tair a chyfyngu'r tîm cartref i 254-9.

Cipiodd Hogan wiced hollbwysig Gareth Berg, oedd yn fygythiad i Forgannwg am ychydig cyn disgyn ar ôl 75 o rediadau.

Yn eu gêm nesaf yn y gystadleuaeth bydd Morgannwg yn croesawu'r Unicorns, sydd wedi colli eu dwy gêm agoriadol, i Gaerdydd ddydd Sul.

Sgôr terfynol

Morgannwg - 280- 3 (40 pelawd)

Middlesex - 254-9 (40 pelawd)

Morgannwg yn fuddugol o 26 rhediad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.