Abertawe 0-0 Man City

Published
image copyrightGetty Images
image captionAguero o Man City yn cael ei daclo gan amddiffynwr Abertawe Chico Flores yn ystod y gêm yn Stadiwm Liberty

Dydy Manchester City yn dal ddim wedi llwyddo i sgorio yn Stadiwm Liberty wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Abertawe brynhawn Sadwrn.

Yr ymwelwyr gafodd y gorau o'r cyfleoedd, gyda'r eilydd Edin Djeko yn methu gôl agored bum munud o'r diwedd.

Roedd hi'n gêm digon di-nod ac mae Man City yn parhau saith pwynt uwchlaw Chelsea.

Er nad ydynt wedi ennill gêm ers eu buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Newcastle ar Fawrth 2, mae'r Elyrch yn parhau yn y nawfed safle.

Ond bydd eu blaenwr Michu yn colli gweddill y tymor ar ôl anafu llinyn y gar yn ystod y gêm.

Roedd capten Abertawe Ashley Williams yn gawr yng nghalon yr amddiffyniad wrth i City roi pwysau ar y tîm cartref yn yr ail hanner.

Methodd Djeko gyfle euraid i gipio buddugoliaeth i Man City ym munudau olaf y gêm, gyda'i ergyd yn mynd heibio'r postyn.

Carreg filltir

Roedd y gêm yn garreg filltir bwysig i'r Elyrch - roedd hi'n 10 mlynedd i'r diwrnod ers iddynt guro Hull City ac adenill eu lle yn y prif gynghrair bêl-droed.

Dechreuodd Abertawe gyda Leon Britton yng nghanol cae - yr unig chwaraewr sy'n dal gyda'r clwb a gurodd Hull 0 4-2 yn 2003.

Daeth cyfle cynnar i Abertawe, gyda Pablo Hernandez yn ergydio dros y bar o 10 llath, a Michu wedyn yn methu'r targed o chwe llath.

Cafodd y ddau gyfle eu creu gan Nathan Dyer, oedd yn y tîm yn lle Ki Sung-Yeung, sydd wedi'i anafu.

Fe ddylai City fod wedi sgorio pan giciodd Samir Nasri'r bêl i freichiau Michel Vorm ag yntau'n agos at y gôl.

Dechreuodd Manchester City yr ail hanner gydag Edin Dzeko yn lle Yaya Tore, ac er iddo ddangos mwy o egni'n syth, doedd o ddim yn gallu cael heibio Ashley Williams.

Ond gêm digon di-fflach oedd hi ar y cyfan, gyda nifer o gyfleoedd i sgorio yn cael eu colli, yn enwedig gan Man City.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol