Hull 2-2 Caerdydd

Rheolwr Caerdydd Malky Mackay Image copyright Getty Images
Image caption Roedd llai o bwysau ar dîm Malky Mackay gan eu bod eisoes wedi sicrhau dyrchafiad y tymor nesaf

Sicrhaodd Caerdydd gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Hull wedi gôl hwyr gyda chic o'r smotyn, wrth i'r Adar Gleision chwarae eu gêm olaf yn y Bencampwriaeth.

Gydag ochr Malky Mackay eisoes wedi eu coroni'r bencampwyr a sicrhau eu lle yn yr Uwchgynghrair y tymor nesa', roedd 'na fwy o bwysau ar dîm Steve Bruce yn y gêm yn Stadiwm KC brynhawn dydd Sadwrn.

Er na chawson nhw fuddugoliaeth, mae'r canlyniad wedi sicrhau bod Hull hefyd wedi'u dyrchafu i'r Uwchgynghrair y tymor nesa'.

Roedd pob tocyn wedi'i werthu ac roedd Hull yn pwyso ar yr ymwelwyr o'r funud gynta', er na chaniatawyd gôl gynnar gan George Boyd am ei fod yn camsefyll.

Cafodd Gaerdydd hefyd gyfle cynnar i fynd ar y blaen, ond methodd ergyd Craig Conway o ychydig fodfeddi.

Roedd 'na gyfleoedd yn parhau i ddod i'r ddwy ochr yn yr hanner cynta', ond dim un yn llwyddiannus.

Image copyright Getty Images
Image caption Hull yn dathlu gôl Paul McShane

Ail hanner

Ond cafodd Caerdydd eu gôl gyntaf yn gynnar yn yr ail hanner, gyda Fraizer Campbell yn sgorio yn erbyn ei hen glwb ar ôl 49 munud.

Daeth cyfnod cyffrous i ddilyn, gyda Hull yn colli cyfle i'w gwneud yn gyfartal wrth i Nick Proschwitz ergydio heibio'r postyn o chwe llath.

Ond daeth hwb i obeithion Hull wedi 58 munud, a Proschwitz yn ergydio'n gywir y tro hwn a'i gwneud yn 1-1.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 63 munud, gyda gôl gan Paul McShane.

Roedd Caerdydd i lawr i 10 dyn ym munudau olaf y gêm wedi i Andrew Taylor gael ei hel o'r cae a chafodd Proschwitz gyfle i sicrhau'r fuddugoliaeth gyda chic o'r smotyn ond cafodd ei harbed gan Marshall.

Mewn diweddglo dramatig, cafodd yr Adar Gleision gig o'r smotyn yn ystod amser ychwanegol, gyda Nicky Maynard yn ei gwneud yn 2-2.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 46 27 87
2. Hull 46 9 79
3. Watford 46 27 77
4. Brighton 46 26 75
5. Crystal P 46 11 72
6. Caerlŷr 46 23 68

Straeon perthnasol