Pro12: Scarlets yn dathlu

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Celtic Rugby

Scarlets 17-41 Treviso

Roedd ochenaid o ryddhâd ym Mharc y Scarlets nos Wener wrth i'r clwb lwyddo i fynd ymlaen i rowndiau terfynol Cynghrair y Pro12.

Y cyfan oedd yn rhaid i'r tîm o Lanelli wneud oedd osgoi colli gartref i Treviso, neu gipio pwynt bonws wrth golli.

Roedd hyd yn oed hynny'n drech na nhw, ac fe ildion nhw bedwar cais a phum gôl gosb wrth golli'n drwm.

Bu'n rhaid dibynnu felly ar ganlyniad arall er mwyn gorffen yn y pedwerydd safle yn y tabl.

Leinster 37-19 Gweilch

Fe ddaeth y canlyniad hwnnw yn Iwerddon. Dim ond buddugoliaeth gyda phwynt bonws fyddai wedi bod yn ddigon i'r Gweilch oresgyn y Scarlets, ond colli oedd eu hanes.

Ceisiodd Dan Biggar brofi y dylai fod wedi cael ei gynnwys yng ngharfan y Llewod drwy sgorio cais a throsiad, ond ei wrthwynebydd Jonny Sexton fydd ar yr awyren i Awstralia ac fe sgoriodd yntau naw pwynt i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Ulster 37-13 Gleision

Cafwydd dosbarth y meistr gan Ruan Pienaar hefyd. Sgoriodd y maswr 20 pwynt wrth i Ulster roi cweir i'r Gleision gyda chais, tair cic gosb a thri trosiad.

Doedd ymateb Rhys Patchell o 8 pwynt i'r Gleision ddim hanner digon.

Caeredin 31-24 Dreigiau

Sgoriodd un o Lewod y Dreigiau - Dan Lydiate - gais i'w dîm wrth iddyn nhw deithio i Gaeredin nos Wener.

Er hynny fe gwblhawyd noson ddiflas i'r rhanbarthau o gymru gan iddyn nhw hefyd golli ar noson olaf y tymor arferol er gwaetha' ymdrech arwrol tua diwedd y gêm.

Dim ond un o'r pedwar rhanbarth oedd ag achos dathlu felly. Chwaraeodd George North a Jonathan Davies nos Wener, ond tybed faint o Lewod y Scarlets fydd yn cael mentro i'r rowndiau terfynol gyda thaith i Awstralia ar y gweill yn y dyfodol agos.

Straeon perthnasol