Morgannwg ar drywydd buddugoliaeth
- Cyhoeddwyd

Wedi bore llwyddiannus arall mae Morgannwg ar drywydd buddugoliaeth yn eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerhirfryn ym Mae Colwyn.
Dechreuodd yr ymwelwyr y dydd 15 rhediad y tu ôl i gyfanswm Morgannwg.
Er i Michael Hogan, Michael Reed a John Glover gael llwyddiant yn ystod y bore, roedd batiwr Awstralia, Simon Katich, yn ddraenen yn eu hystlys gan sgorio 69.
Fe gafodd gefnogaeth ystyfnig gan Kyle Hogg (47) a Gareth Cross (30) wrth i Sir Gaerhirfryn gyrraedd cyfanswm o 272 yn eu hail fatiad.
Roedd hynny'n gosod nod i Forgannwg o 154 i ennill y gêm, ac erbyn amser te ar y trydydd diwrnod roedden nhw wedi cyrraedd 50 am 1 wiced, gyda Will Bragg ar 39 heb fod allan.
Morgannwg v Sir Gaerhirfryn - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran; Bae Colwyn
Sgôr ddiweddaraf (diwedd yr ail ddiwrnod)
Sir Gaerhirfryn - (batiad cyntaf) 123
Morgannwg - (batiad cyntaf) 242
Sir Gaerhrifryn - (ail fatiad) 272
Morgannwg - (ail fatiad) 50 am 1 wiced
Straeon perthnasol
- 19 Ebrill 2013
- 17 Ebrill 2013
- 12 Ebrill 2013
- 12 Ebrill 2013
- 11 Ebrill 2013
- 10 Ebrill 2013
- 10 Ebrill 2013