Canolfan newydd i filwyr dall

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other
disgrifiad o’r llunPennaeth y Lluoedd Arfog oedd yn agor y ganolfan ar gyfer cyn-filwyr dall

Mae canolfan ar gyfer cyn-filwyr dall wedi agor ei drysau yn Llandudno ddydd Iau.

Pennaeth y Lluoedd Arfog, Y Cadfridog Syr David Richards, sydd yn agor y ganolfan a'r elusen Blind Veterans UK sydd yn gyfrifol amdani.

Mae'r ganolfan, sydd wedi costio £12 miliwn i'w hadnewyddu, yn rhoi hyfforddiant, gofal ac adferiad i gyn-filwyr dall neu rhai sydd wedi cael niwed i'w golwg.

Mae'r Lleng Brydeinig a'r elusen Help the Heroes ymlith rhai sydd wedi cyfrannu at y costau.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnig i bawb ym Mhrydain ond yn enwedig unigolion yng Nghymru a gogledd orllewin Lloegr.

Yn ystod y diwrnod mae'r Cadfridog wedi mynychu seremoni arbennig i gofio am y Capten Stephen Healey, a gafodd ei ladd tra ar batrôl yn Afghanistan.

ffynhonnell y llun, Other
disgrifiad o’r llunCafodd plac i gofio am y Capten Stephen Healey ei ddadorchuddio

Roedd y gŵr 29 oed yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd.

Mae plac wedi ei ddadorchuddio i gofio amdano.

Mae 40 ystafell wely en-suite yn y ganolfan, campfa, dwy gegin hyfforddi, neuadd chwaraeon, ystafell technoleg gwybodaeth a lle i gynnal gweithdai celf.

Yn ogystal, mae fflat lle y gall unigolyn aros am gyfnod er mwyn datblygu sgiliau i fyw yn annibynnol.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol