Tri yn yr ysbyty ar ôl damwain ym Mangor

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddamwain yn ninas Bangor

Mae tri'n cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ôl damwain ddifrifol yn y ddinas amser cinio ddydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.20pm ar ôl i gar a fan daro ei gilydd ar Ffordd Caernarfon.

Cafodd dyn a dwy ddynes eu cludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans.

Mae gwraig 76 oed yn ddifrifol wael.

Mae plismyn yn gofyn i unrhywun welodd y ddamwain i gysylltu gyda nhw ar 101.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol