Chelsea 2-0 Abertawe

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunRoedd Frank Lampard yn allweddol i Chelsea

Rhoddodd Chelsea hwb i'w gobeithion o gyrraedd Cynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf wrth guro Abertawe ddydd Sul.

Oscar sgoriodd gyntaf gydag ergyd wedi 43 munud ar ôl i Frank Lampard ei dargedu yn gelfydd.

Yna fe sgoriodd Lampard o'r smotyn ddwy funud yn ddiweddarach ar ôl i Juan Mata gael ei faglu gan Leon Britton.

Angel Rangel ddaeth yn agosaf dros Abertawe, gydag arbediad da gan Petr Cech.

Yn y cyfamser, disgynnodd Reading a Queens Park Rangers o'r Uwchgynghrair wedi gêm ddi-sgôr rhyngddynt.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol