Ceidwadwyr: Codi stêm cyn cynhadledd
Rhiannon Michael
Uned Wleidyddol BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Er bod etholiadau ymhell i ffwrdd, mae'r ymgyrchu gwleidyddol yn dechrau codi stêm - o leiaf yng ngharfan y Ceidwadwyr.
Efallai nad yw trigolion ardal Pen-y-bont na Chastell-nedd yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn draddodiadol, ond doedd dim dewis gan deithwyr trên rhwng y trefi hynny ond clywed neges y blaid wrth i arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad eu hannerch wrth gyrraedd pob gorsaf gyda: "Dyma Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
"Gobeithio'ch bod chi'n mwynhau'ch taith gydag Arriva Trains Wales heddiw.
"Os nad ydych chi, cysylltwch da chi ag Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth.
"Ond byddwch yn ofalus wrth adael y trên a gwyliwch am y bwlch rhwng y trên a'r platfform."
Y teimlad cyffredinol ymysg y teithwyr oedd bod Mr Davies wedi gwneud gwaith go lew, ond awgrymodd rhai y byddai'n rheitiach iddo fod wedi cynnig diodydd a bwyd o droli yn hytrach na defnyddio'r uwch seinydd.
Clywyd un fenyw'n murmur rhyw feirniadaeth o'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth adael y trên, oedd yn awgrymu nad oedd neges y Ceidwadwr o reidrwydd wedi dwyn sylw pob teithiwr.
'Cyfle euraid'
Mynnodd aelod Canol De Cymru bod neges ddifrifol ganddo i'w rannu â'r cyhoedd wrth iddo deithio i gynhadledd flynyddol ei blaid yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe.
"Rydym ni'n pwysleisio buddsoddiad llywodraeth y DU yn rhwydwaith trenau de Cymru," meddai.
Roedd yn cyfeirio at drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe: "cyfle euraid i chwyldroi economi de Cymru" meddai.
"Rydym ni'n mynd i ddangos i'r byd bod Cymru ar agor i fusnes.
"Ac rydym ni'n credu y bydd hwn yn ddechrau ar y ffordd i drydaneiddio llinell gogledd Cymru hefyd, rhywbeth fydd yn creu cyfleoedd newydd yn y gogledd."
Yr economi felly fydd prif thema cynhadledd y Ceidwadwyr.
Teithio
Diwrnod yn unig o gynadledda fydd a hynny ar ddydd Sadwrn, ond i wneud iawn am hynny mae Ceidwadwyr wedi teithio ar hyd ac ar led de Cymru yn ymweld â gwahanol fusnesau.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol David Jones wedi ymweld ag adrannau o brifysgol Abertawe a busnesau Abertawe a'r cylch, heb anghofio tîm pêl-droed cyntaf Cymru yn uwch gynghrair Lloegr, yr Elyrch.
Bu'n pwysleisio cyfraniad adrannau prifysgol fel y coleg peirianneg i'r economi am eu gwaith gyda Rolls Royce, a chanolfan ragoriaeth Virgin Media ym mharc menter Abertawe.
"Mae creu twf tymor hir a swyddi tymor hir yn flaenoriaeth allweddol i ni," meddai'r AS.
"Mae Cymru yn rhan o ras fyd-eang am lwyddiant economaidd ac mae'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth allwn ni i sicrhau'r llwyddiant hwnnw."
Ddiwrnod wedi cyhoeddiad bod Prydain wedi osgoi trydydd dirwasgiad o drwch blewyn, mae'n siŵr y bydd y Ceidwadwyr yn brolio dros y penwythnos bod polisïau'r glymblaid yn San Steffan yn gweithio.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, roedd twf o 0.3% yn yr economi yn y tri mis diwethaf.
Er nad yw cystal â gobeithion y Ceidwadwyr, ond yn well na rhagolygon rhai economegwyr, does dim dwywaith mai neges y blaid yn Stadiwm y Liberty yw bod yr economi yn ddiogel yn eu dwylo nhw, ac y byddai Cymru'n elwa o weithredu eu polisïau nhw yn y Cynulliad.
Straeon perthnasol
- 6 Medi 2012
- 8 Hydref 2012