Bom mewn tŷ newydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc sydd newydd brynu tŷ pum llofft wedi cael tipyn o sioc ar ôl agor cwpwrdd a darganfod bom yno.
Roedd Henry Southall, 24 oed, yn dangos y tŷ i'w rhieni pan ddaethon nhw o hyd i'r bom o'r Ail Rhyfel Byd.
"Roeddwn ni yn mynd â mam a dad o gwmpas y tŷ ac fe agorais i gwpwrdd oedd yn llechu yng nghornel y gegin. Fe wnaethon ni encilio oddi yno yn gyflym ar ôl gweld y bom.
"Dw i'n falch fy mod i wedi ei ddarganfod o pan nes i. Fydden i ddim wedi hoffi pe byddai o wedi ffrwydro tra fy mod i fyny grisiau yn fy ngwely!
"Dw i yn trio dod o hyd i'r perchennog oedd yn byw yma gynt fel fy mod i yn medru gofyn pam bod y bom yn y tŷ.
"Ond dw i ddim wedi ei weld o ers i fi symud i mewn," meddai Henry Southall.
Ffrwydro
Fe gafodd y fyddin ei galw i'r tŷ sydd ger Porthmadog er mwyn cael gwared â'r bom.
Mi ddywedon nhw fod y ddyfais yn un beryglus iawn a phe byddai wedi ffrwydro byddai popeth agos o'i gwmpas wedi cael ei ddinistrio.
Dywedodd Henry Southall: "Fe aeth y fyddin â chragen y bom i lawr i'r traeth ac mi oedd yna bang mawr pan wnaeth o ffrwydro.
"Mi oedd pobl yn gallu clywed y sŵn cymaint â dwy filltir i ffwrdd ac mae o wedi gadael twll mawr yn y tywod."