Casnewydd ar y blaen
- Cyhoeddwyd

Grimsby 0-1 Casnewydd
Fe fydd Casnewydd yn gwybod beth fydd rhaid iddyn nhw wneud ar faes Rodney Parade ddydd Sul er mwyn cyrraedd Wembley ddechrau mis Mai.
Mae'r Alltudion ar y blaen wedi'r cymal cyntaf yn Grimsby nos Fercher ar ôl i Ismail Yakubu sgorio ym munudau ola' gêm.
Os fydd tîm Justin Edinburgh yn llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol fe allan nhw orfod wynebu Wrecsam sydd ar y blaen o 2-1 wedi eu cymal cyntaf nhw yn erbyn Kidderminster nos Fawrth.
Di-sgor oedd hi yn yr hanner cyntaf.
Fe bwysodd Grimsby ar ddechrau'r ail hanner.
Ond yr Alltudion sydd yn dathlu wedi i gic rydd arwain at groesiad gan Andy Sandell a pheniad yng nghefn y rhwyd gan Ismail Yakubu.
Dyma'r chweched gôl i'r chwaraewr y tymor yma ac fe ddaeth hi mewn amser tyngedfennol gyda dim ond ychydig funudau yn weddill o'r gêm.
Cafodd Grimsby gyfle i daro nôl yn ystod yr amser ychwanegol ar ôl iddyn nhw gael cic rydd hefyd.
Ond er i Sam Hatton anelu at y rhwyd fe gafodd y bêl ei chlirio gan Ismail Yakubu.
Bu sawl ymgais arall gan chwaraewyr Grimsby cyn y chwiban olaf ond yn ofer.
Bydd ail gymal rownd gynderfynol Casnewydd yn dechrau ddydd Sul gyda'r gic gyntaf am 4:30pm, ac yn dilyn yr ail gymal rhwng Kidderminster a Wrecsam sy'n dechrau am 1:30pm.
Straeon perthnasol
- 13 Ebrill 2013
- 25 Mawrth 2013
- 24 Mawrth 2013
- 24 Ionawr 2013
- 19 Mawrth 2013