Y Bala 1-0 Aberystwyth

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Y Bala 1-0 Aberystwyth

Roedd yna un gêm yn Uwchgynghrair Cymru nos Fawrth, ac fe gipiodd y Bala driphwynt arall.

Mae'r canlyniad yn cadarnhau lle'r Bala yn y gemau ail gyfle am le yn Ewrop y tymor nesaf, ond fe fydd hefyd yn atgoffa'r tîm o'r hyn allai fod wedi digwydd pe bai nhw heb gael dechrau mor wael i'r tymor.

Fe ddaeth yr un gôl wedi 75 o funudau, a Kenny Lunt oedd y sgoriwr.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol