Stereoteipio menywod yn niweidio'r economi
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwahaniaeth rhwng rôl menywod a dynion yn cyfyngu ar gyfraniad merched i economi Cymru, yn ôl ymchwil newydd.
Dywed yr astudiaeth bod stereoteipio menywod yn y gweithle yng Nghymru yn golygu eu bod yn dal i gael eu gweld mewn ystod gyfyng i waith a diwydiannau.
Cafodd yr astudiaeth "Lle'r Fenyw" ei gomisiynu gan yr elusen Chwarae Teg, ac mae'n dangos nad yw merched yn dal i ennill cymaint o gyflog, nac yn cyrraedd swyddi uchel mor aml â dynion.
Fe gafodd yr astudiaeth ei baratoi gan gwmni Ecorys, gan holi 600 o fenywod a 400 o gyflogwyr ar draws Cymru.
Rhwystrau'n parhau
Mae'r ymchwil yn dangos bod 'na welliannau wedi bod yn nhermau cyflog a hawliau cyfartal i fenywod, ond mae rhwystrau cymhleth yn parhau sy'n cyfyngu ar gyfraniad merched i economi Cymru.
Ymhlith canfyddiadau'r ymchwil mae :-
- 44% o fenywod sy'n gweithio yn gwneud hynny'n rhan amser;
- 59% o fenywod sy'n gweithio yn gwneud hynny mewn meysydd traddodiadol fel gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd;
- 7% o fenywod naill ai'n rheolwyr neu mewn rôl uwch o gymharu ag 11% o ddynion.
'Herio rôl menywod'
Dywedodd prif weithredwr elusen Chwarae Teg, Joy Kent:
"Er bod gwelliannau wedi bod, mae gennym dipyn o ffordd i fynd yng Nghymru.
"Er bod galluogi a chefnogi menywod i weithio yn bwysig, mae eu hannog i roliau llai traddodiadol a diddymu'r rhwystrau iddyn nhw weld cynnydd gyrfaol yr un mor hanfodol.
"Rhaid i ni herio rôl menywod fel gofalwyr yn gyntaf ac enillwyr cyflog yn ail, a rhaid ymestyn y dewisiadau sydd ar gael i ferched ifanc wrth ddewis llwybr eu gyrfaoedd.
"Oni bai ein bod yn ailystyried yn llwyr sut i fynd i'r afael â stereoteipio rhyw a chanfyddiadau gweithio'n hyblyg, rydym mewn perygl o fyw mewn economi lle mae dros hanner y gweithlu sydd ar gael yn cael ei danddefnyddio."
Bydd y ddogfen ymchwil yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol ym Mae Caerdydd ddydd Mercher.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau Huw Lewis AC: "Mae'r ymchwil yma'n cynnig tystiolaeth bwysig sy'n dangos yn glir bod bwlch cyflog clir mewn nifer o sectorau gwaith, a bod menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn safleoedd uwch.
"Bydd yr adroddiad yma yn gymorth i ni ystyried safle menywod yn y gweithlu Cymreig, ac yn dangos y gwaith sydd eto angen ei wneud yn y maes."
Straeon perthnasol
- 10 Ionawr 2012