Uwchgynghrair Blue Square Bet

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, bbc

Mansfield 1-0 Wrecsam

Mansfield yw'r pencampwyr ar ôl trechu Wrecsam o 1-0.

Maen nhw'n dychwelyd i'r gynghrair am y tro cynta' ers 2008.

Mansfield yn llawn haeddu adennill eu lle ond rhaid i Wrecsam godi eu pennau a chanolbwyntio ar y gêm nesa'.

Grimsby 3-0 Casnewydd

Roedd Casnewydd yn colli o 3-0 erbyn yr egwyl.

Ar ôl 12 munud roedd cic rydd Jamie Devitt yn drech na'r golgeidwad Alan Julian.

Gwyrodd ergyd Andy Thanoj oddi ar amddifynnwr ac roedd gôl wych Liam Hearn yn goron ar y cyfan.

Hon oedd buddugoliaeth gynta' Grimsby gartre' ers Chwefror.

Straeon perthnasol