Abertawe 0-0 Southampton

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Arall
disgrifiad o’r llunRhwystredigaeth: Michu'n methu sawl cyfle

Roedd hi'n gêm ddi-sgôr rhwng Abertawe a Southampton wrth i Michu fethu o leia' ddau gyfle.

Dechreuodd Abertawe ar dân ond weithiau roedden nhw ei chael hi'n anodd cynnal y safon yn erbyn tîm trefnus.

Wedi 65 munud ergydiodd Nathan Dyer i Abertawe ond llwyddodd Maya Yoshida i glirio oddi ar y lein.

Ddeng munud yn ddiweddarach rhoddodd chwaraewr canol y cae Sung-Yeung Ki gynnig arni ond Jos Hooiveld rwystrodd yr ymdrech.

Wedyn pan saethodd Miguel Michu aeth y bêl heibio'r postyn chwith.

Dyw Southampton ddim wedi ennill yn Abertawe ers y fuddugoliaeth o 1-0 yn yn hen Ail Adran.

Hon oedd y 60fed gêm rhwng y ddau, Southampton wedi ennill 27 ac Abertawe 18.

Pwynt yr un yn adlewyrchiad teg o'r chwarae.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol