Pro12: Noson gymysg

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, SNS
disgrifiad o’r llunRyan Grant yn sgorio ei ail gais

Glasgow 35-17 Gweilch

Cafwyd ergyd drom i obeithion y Gweilch am le yn y gemau ail gyfle yn y Pro12 ar ôl colli'n drwm i Glasgow nos Wener.

Mae'r pencampwyr yn y pedwerydd safle ar ôl colli o 35-17, ond mae gan y Scarlets un gêm mewn llaw arnynt a byddai buddugoliaeth i'r Scarlets yn erbyn y Gleision nos Sadwrn yn eu codi uwchben y Gweilch i'r pedwerydd safle hollbwysig.

Daeth ceisiau'r Albanwyr gan Ryan Grant (2), Sean Maitland, Niko Matawalu a DTH van der Merwe.

Cai Griffiths a Sam Lewis sgoriodd geisiau'r Gweilch.

Dreigiau 30-24 Munster

Cais hwyr i Ross Wardle seliodd y fuddugoliaeth i'r Dreigiau yn Rodney Parade.

Roedden y tîm cartref yn edrych yn gyfforddus wrth i gais gan Steffan Jones a throed Tom Prydie eu rhoi 22-5 ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.

Tarodd Munster yn ôl gyda cheisiau gan Ronan O'Mahony, CJ Stander a Johne Murphy a dau drosiad gan Ian Keatley i arwain o ddau bwynt gydag wyth munud i fynd.

Ond achubwyd y dydd gan Wardle yng ngêm gartref olaf Dan Lydiate.

Straeon perthnasol