Dwyn car: Teithiwr dan glo ar ôl damwain
- Cyhoeddwyd

Mae llanc 19 oed o ardal Llandudno wedi ei anfon i ganolfan gadw am fod yn deithiwr mewn car a oedd wedi ei ddwyn.
Fe darodd yr MG Rover yn erbyn cerbyd arall yn Neganwy, Conwy fis Ionawr y llynedd gan ladd bachgen 13 oed oedd yn teithio ynddo.
Ar y pryd, roedd Barry Bingham yn eistedd ar sedd gefn y car a oedd wedi ei ddwyn. Roedd y bachgen a fu farw yn eistedd wrth ei ochr.
Bydd yn rhaid i Bingham dreulio 13 mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc ar ôl i lys y goron Caernarfon ei gael o'n euog o fod yn deithiwr gwirfoddol mewn car a oedd wedi ei ddwyn.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd.
Clywodd y llys bod Kody Dutton, y bachgen gafodd ei ladd, yn chwaraewr pêl-droed addawol.
Roedd o ymhlith nifer o bobl a oedd yn y car adeg y ddamwain.