Oriel luniau'r angladd y Farwnes Thatcher

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Arch y cyn brif weinidog Margaret Thatcher yn gorffwys yng Nghapel St Mary Undercroft o dan y Senedd cyn yr angladd ddydd Mercher.
Disgrifiad o’r llun, Roedd miloedd wedi ymgasglu ar strydoedd Llundain ers ben bore i wylio'r orymdaith angladdol.
Disgrifiad o’r llun, Roedd rhai wedi cyrraedd yn gynnar i sicrhau golygfa dda o'r digwyddiadau ddydd Mercher.
Disgrifiad o’r llun, Roedd 4,000 o blismyn ar ddyletswydd fel rhan o ymgyrch ddiogelwch fawr ar gyfer yr angldd.
Disgrifiad o’r llun, Roedd tua 2,300 o bobl o 170 o wledydd wedi cael gwahoddiad i'r angladd.
Disgrifiad o’r llun, Roedd Phil Williams, o ogledd Cymru, ymhlith y rhai oedd wedi teithio i Lundain i gynnal protestiadau ar strydoedd y ddinas ddydd Mercher.
Disgrifiad o’r llun, Cafodd corff y Farwnes Thatcher ei gludo o Balas San Steffan i Gapel St Clement Danes, cyn cael ei gario ar gar gwn i Gadeirlan St Paul's.
Disgrifiad o’r llun, Gwesteion yn cyrraedd ar gyfer yr angladd yng Nghadeirlan St Paul's
Disgrifiad o’r llun, Roedd ŵyr a wyres y Farwnes Thatcher, Michael ac Amanda Thatcher, yn cerdded o flaen yr arch wrth iddi gyrraedd Cadeirlan St Paul's