Gemau cyfartal i Gasnewydd a Wrecsam

Wrecsam a Chasnewydd Image copyright bbc

Luton 2-2 Casnewydd

Roedd Casnewydd a Wrecsam eisoes yn sicr o'u lle yn y gemau ailgyfle ar ddiwedd y tymor.

Sgoriwyd dwy gôl yr un gan Andre Gray dros Luton a Christian Jolley dros Gasnewydd yn Kenilworth Road.

Daeth y Cymry yn ôl ddwywaith gan arddangos y cryfder cymeriad sydd wedi eu nodweddu'r tymor hwn.

Wrecsam 1-1 Braintree

Andy Morrell roddodd Wrecsam ar y blaen o fewn tri munud, cyn i ergyd Ben Wright ddod â'r ymwelwyr yn gyfartal wedi 18 munud.

Y Dreigiau reolodd yr ail hanner, ond heb lwyddo i selio'r fuddugoliaeth.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET
Chwaraewyd Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Mansfield 45 39 92
2. Kidderminster 45 38 90
3. CASNEWYDD 45 28 85
4. WRECSAM 45 30 80
5. Grimsby 45 29 80

Straeon perthnasol