Y Gleision yng Nghwpan Heineken

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunCafodd Ken Owens un o ddau gais Y Scarlets

Gleision 28-13 Zebre

Fe sicrhaodd y Gleision eu lle yng Nghwpan Heineken y tymor nesaf gyda buddugoliaeth dros y tîm ar waelod y tabl.

Roedd y fuddugoliaeth yn hawdd a dweud y gwir, gyda Leigh Halfpenny'n sgorio 13 o bwyntiau gyda'i droed dde.

Fe ddaeth tri chais i'r Gleision gyda Gavin Evans, Rhys Patchell a Jamie Roberts yn croesi.

Trosiwyd dau o'r ceisiau gan Halfpenny, ac fe ychwanegodd tair gôl gosb at ei gyfanswm personol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol