Y Meistri: Y Cymry'n gadael Augusta

Jamie Donaldson Image copyright Reuters
Image caption Jamie Donaldson enillodd Bencampwriaeth HSBC yn Abu Dhabi ym mis Ionawr

Ni fydd Ian Woosnam na Jamie Donaldson yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth Meistri'r Unol Daleithiau ddydd Sadwrn.

Mae rheolau'r gystadleuaeth yn gadael i naill ai'r 50 o chwaraewyr gyda'r sgôr orau neu'r chwaraewyr sydd o fewn 10 ergyd i'r chwaraewr sydd ar y blaen yn y bencampwriaeth i fynd ymlaen i chwarae yn y drydedd rownd.

Fel cyn enillydd mae Woosnam wedi ennill yr hawl i gystadlu bob blwyddyn yn Augusta, ond doedd dim disgwyl iddo fod yn gystadleuol eleni, ac fe orffennodd ei ail rownd 14 ergyd yn waeth na'r safon wedi dwy rownd o 80 a 78.

Er i Jamie Donaldson gael twll mewn un yn ei rownd gyntaf ddydd Iau, fe ildiodd ergydion ar sawl twll arall i'w adael ddwy egryd dros y safon ar ddiwedd ei rownd gyntaf.

Dechreuodd ei ail rownd yn siomedig hefyd, ac er gwaetha' diweddglo ardderchog i'r rownd - fe gafodd dair pluen yn y pedwar twll diwethaf - doedd hynny ddim yn ddigon i'w achub nos Wener.

Roedd cyfanswm Donaldon o bum ergyd yn waeth na'r safon un ergyd yn ormod i gymhwyso ar gyfer y penwythnos.

Pencampwriath y Meistri'r Unol Daleithiau: Ail Rownd

1. Jason Day (Awstralia): -6 (70;68)

=2. Fred Couples (America): -5 (68;71)

=2. Marc Leishman (Awstralia): -5 (66;73)

Jamie Donaldson (Cymru): +5 (74;75)

Ian Woosnam (Cymru): +14 (80;78)

Straeon perthnasol