Y pencamwyr yn ennill yn erbyn y tîm sy'n ail

Published
image copyrightNot Specified

Y Seintiau Newydd 4-2 Airbus

Fe wnaeth Pencampwyr Uwch Gynghrair Pêl-Droed Cymru guro'r tîm sy'n ail, Airbus nos Wener o 4-2.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi wyth munud wrth i Ryan Fraughan ganfod y rhwyd.

Cafodd Michael Wilde ddwy gôl arall i'r Seintiau cyn yr egwyl.

Fe wnaeth yr ymwelwyr daro'n ôl yn yr ail hanner gyda Ian Kearney yn cael gôl o fewn pum munud cynta'r ail chwarae.

Fe wnaeth Chris Marriott sgorio pedwaredd gôl Y Seintiau wedi 67 munud cyn i Michael Roddy sgorio ail i Airbus naw munud cyn y diwedd.

Dydd Sadwrn:

Bangor v Caerfyrddin

Port Talbot v Prestatyn

Aberystwyth v Y Drenewydd

Cei Connah v Llanelli

Dydd Sul:

Bala v Lido Afan

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol