Gobeithion Scarlets yn parhau

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ken Owens un o ddau gais Y Scarlets

Scarlets 29-6 Glasgow

Fe gadwodd y Scarlets eu gobeithion o orffen tymor y Pro12 yn safle'r gemau ail-gyfle yn fyw wedi buddugoliaeth o 29-6 yn erbyn Glasgow ym Mharc y Scarlets nos Wener.

Mae'r Scarlets yn codi i'r pedwerydd safle, uwchben Y Gweilch.

Sgoriodd y maswr Owen Williams 21 pwynt wrth gicio tra bod Ken Owens a Liam Williams wedi croesi gyda chais yr un.

Fe fydd Williams yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor ac yn ymuno gyda Chaerlŷr.

Llwyddodd i gicio pedair cic gosb, dau drosiad a chic adlam nos Wener.

Dyma oedd yr ail gêm yn unig i'r ymwelwyr ei golli yn eu 10 gêm ddiwethaf ym mhencampwriaeth y Pro12.

Ruaridh Jackson gafodd unig bwyntiau Glasgow gyda dwy gic gosb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol