Cymru'n codi 22 safle ar restr y byd

Yr Alban v Cymru Image copyright SNS
Image caption Curodd Cymru yr Alban fis diwethaf

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi codi 22 safle ar restr detholion y byd gan FIFA - corff rheoli pêl-droed y byd.

Bellach mae tîm Chris Coleman yn safle 49 o'i gymharu â 71 yn y rhestr ddiwethaf i'w chyhoeddi.

Daw hyn yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban, ac er iddyn nhw golli yn erbyn Croatia mae safle uchel y tîm hwnnw (4ydd) yn golygu na chafodd Cymru eu cosbi yn y rhestr.

Mae'r tri uchaf wedi aros yr un fath gyda Sbaen, Yr Almaen ac Ariannin yn y tri safle uchaf.

Y syndod mwyaf yn y tabl yw gweld mawrion Brasil ar eu safle gwaethaf erioed - 19 - ond yr eglurhad am hynny yw mai dim ond gemau cyfeillgar y mae'r Brasiliaid yn eu chwarae ar hyn o bryd gan mai nhw fydd yn cynnal Cwpan y Byd yn 2014.

Mae Lloegr wedi disgyn tri safle i 7fed, ac fe gododd Gweriniaeth Iwerddon un safle i rif 39 yn dilyn gemau cyfartal yn erbyn Awstria a Sweden.

Ond mae'r newyddion yn waeth o lawer i'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Disgynnodd yr Alban 11 safle i rif 77 ar ôl colli i Gymru a Serbia ac mae Gogledd Iwerddon bellach islaw gwledydd fel Suriname, Tajikistan, New Caledonia ac Antigua a Barbuda wrth ddisgyn o 98 fis diwethaf i 119 y tro hwn.

Straeon perthnasol