Dechrau siomedig i Forgannwg
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n ddiwrnod cyntaf siomedig i gricedwyr Morgannwg ar ddechrau tymor newydd yn Stadiwm Swalec.
Roedden nhw'n croesawu Sir Northampton i Gaerdydd ar gyfer y gêm yn ail adran y Bencampwriaeth. Yr ymwelwyr alwodd yn gywir a dewis maesu.
Collodd Ben Wright ei wiced heb sgorio wrth gael ei ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio David Willey.
Fe ddilynodd bartneriaeth dda rhwng Will Bragg a Stewart Walters, ond roedd sgorio'n anodd oherwydd cyfuniad o gyflwr y wiced wedi'r tywydd drwg diweddar a'r tywydd fore Mercher.
Bragg oedd y cyntaf i adael am 22 oddi ar fowlio Steven Crook, gydag Andrew Hall yn cipio wiced Walters yn fuan wedyn am 23.
Tarodd Crook eto i gael gwared ar Marcus North, ac fe ddisgynnodd weddill batwyr Morgannwg heb greu fawr o argraff.
Stephen Peters, capten yr ymwelwyr, oedd y brif ddraenen yn ystlys bowlwyr Morgannwg. Pan ddaeth y glaw roedd yn 60 heb fod allan.
Morgannwg v. Sir Northampton - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran; Stadiwm Swalec
Sgôr ar ddiwedd diwrnod 1 o 4 :-
Morgannwg (batiad cyntaf) - 134 i gyd allan (50 pelawd)
Northampton (batiad cyntaf) 108 am 3 (23.3 pelawd)