Cyffur milfeddygol mewn cynnyrch Asda

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun, Cyffur milfeddygol wedi ei ddarganfod mewn tuniau corn bîff Asda

Mae'r archfarchnad Asda wedi tynnu ei chynnyrch tuniau corn bîff o'u silffoedd ar ôl i brofion ddarganfod bod lefelau isel o'r cyffur phenylbutazone wedi ei ganfod.

Mae'r feddyginiaeth lladd poen, sy'n cael ei alw yn 'bute', yn cael ei ddefnyddio yn aml i drin ceffylau.

Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd dyma'r tro cyntaf i bute gael ei ffeindio mewn cynnyrch ers cychwyn y sgandal cig ceffyl.

Dyw anifeiliaid sy'n cael eu trin gyda'r cyffur ddim i fod i gyrraedd y gadwyn fwyd am fod yna risg i iechyd pobl.

Er hynny isel iawn yw'r risg hwnnw.

Daw'r newyddion diweddaraf wedi i Pizza and Kebab House yn Nefyn a chynnyrch o'r Burger Manufacturing Company (BMC) yn Llanelwedd brofi yn bositif i gig ceffyl dydd Mawrth.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol