Uwchgynghrair Cymru

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Fe gafodd tair gêm eu chwarae yn Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru nos Fawrth - dwy yn hanner ucha'r tabl ac un yn yr hanner gwaelod.

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth yn barod, ond mae'r frwydr am le yn Ewrop yn dal i rygnu 'mlaen.

Fe fydd naill ai Bangor neu Prestatyn yn mynd i Gynghrair Europa y tymor nesaf gan y bydd y ddau yn cwrdd yn rownd derfynol Cwpan Cymru.

Mae'n edrych yn debyg mai dyna unig obaith y ddau o le yn Ewrop gan i Airbus ennill 2-0 yn erbyn Caerfyrddin i ddal eu gafael ar yr ail safle yn y tabl.

Maen nhw dri phwynt o flaen Bangor wedi i'r Dinasyddion ennill o 1-0 ym Mhrestatyn.

Cyfartal oedd hi 1-1 rhwng Aberystwyth a Chei Connah yn yr hanner isaf.

Canlyniadau nos Fawrth

Airbus UK Brychdyn 2-0 Caerfyrddin

Prestatyn 0-1 Bangor

Aberystwyth 1-1 Cei Connah

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol