Newidiadau yn dod i rym i fudd-dal anabledd

Rhywun mewn cadair olwyn
Image caption Bydd pobl sydd ag anableddau i gyd yn symud i'r system newydd maes o law

Mae'r newidiadau diweddaraf i fudd-daliadau yn dod i rym ddydd Llun.

Bydd y lwfans byw i bobl anabl yn dod i ben yn raddol, ac yn ei le mae'r taliad annibyniaeth personol (TAP) yn cael ei gyflwyno.

Mae'r broses yn dechrau yng ngogledd Lloegr, a bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru ym mis Mehefin.

Ond gall gymryd o leia' dwy flynedd cyn bod pawb yn cael eu hailasesu.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, roedd hi'n hen bryd i'r system "hurt" ddod i ben, ble roedd pobl yn gymwys i gael budd-dal heb unrhyw drefn wirio bellach.

Ond mae elusen anabledd Scope yn dadlau y bydd 600,000 o bobl yn colli cymorth ariannol o dan y drefn newydd.

Dywedodd Richard Hawkes, prif weithredwr yr elusen:

"Mae'r lwfans angen ei ddiwygio a gallai gael ei dargedu'n well i helpu pobl gwrdd â'r costau ychwanegol maen nhw'n wynebu.

"Ond mae pobl anabl yn pryderu'n fawr am gynlluniau'r llywodraeth. Maen nhw'n credu mai esgus ydy o i dorri ar y gefnogaeth iddyn nhw."

Asesu rheolaidd

Mae ffigurau'r llywodraeth yn dangos fod dros 70% o bobl anabl yn derbyn lwfans byw trwy eu hoes.

Ond mae gweinidogion yn credu bod sefyllfaoedd rhai unigolion yn gallu gwella dros amser a bod angen asesu yn rheolaidd.

Bydd pobl yng ngogledd Lloegr yn cael eu hailasesu trwy gyfweliadau uniongyrchol gyda dau gwmni sy'n gyfrifol am weinyddu'r broses.

Ym mis Hydref bydd rhai o'r unigolion sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd yn dechrau symud i'r system newydd os oes newid yn eu hamgylchiadau neu fod eu budd-dal presennol yn dod i ben.

Ond bydd hi'n ddwy flynedd cyn y bydd y rhan fwya' o'r 3.3 miliwn sy'n derbyn budd-dal yn symud i daliadau annibyniaeth personol.

Ansicrwydd

Un sydd yn pryderu am effaith posib y newid arno yw Dion Smith, o ardal Bae Colwyn, a ddywedodd:

"Does 'na neb yn gwybod fyddan nhw'n aros fel maen nhw neu fyddan nhw'n waeth allan o ran y pres ma nhw'n ei gael.

"Mae pawb sydd hefo anabledd yn poeni sut maen nhw am fyw yn y dyfodol."

Ond wrth siarad ar raglen y Post Cynta' fore Llun, dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David Davies, nad oedd achos i unrhyw un bryderu.

"Da ni wedi newid y system i sicrhau bod yr holl system yn deb i bawb," meddai.

"Dwi'n deall bod cyfweliadau wyneb i wyneb yn mynd i fod yn 'chydig o bryder i bawb ond does dim angen poeni am hynny.

"Yr unig bobl sy'n mynd i golli allan ydy'r bobl sydd ddim yn anabl ac sy'n gallu mynd i weithio...mae'r newidiadau yno i sicrhau bod pawb sy'n gallu gweithio yn gwneud hynny yn lle dibynnu ar fudd-daliadau am weddill eu bywyd."

Ymhlith newidiadau eraill i'r system les, mae cynllun Credyd Cynhwysol yn dod i rym yn lle'r lwfans ceisio gwaith, y lwfans cyflogaeth a chymorth, cymhorthdal incwm, credydau treth plant, credydau treth gwaith a budd-dal tai.

Daeth trefniadau eraill hefyd i rym ar Ebrill 1, gan gynnwys uchafswm o £26,000 ar faint o fudd-dal all un cartre' ei hawlio a chwtogi ar daliadau i bobl sydd ag ystafell wely sbâr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.