Norwich 2-2 Abertawe

Cyhoeddwyd

Pumed gôl Luke Moore o'r tymor wedi 75 munud achubodd bwynt i Abertawe yn erbyn Norwich yn Ffordd Carrow.

Ar ôl i Michu roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 35 munud, fe ddaeth Norwich yn gyfartal trwy'r Albanwr Robert Snodgrass bum munud yn ddiweddarach.

Er mai Abertawe oedd â mwyafrif llethol y meddiant, rhoddodd Michael Turner Norwich ar y blaen wedi 60 munud.

Er mawr synod i bawb, fe wastraffodd Michu gyfle euraidd o flaen y gôl yn amser ychwanegol.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol