Caerdydd yn curo Blackburn i ymestyn eu mantais ar frig y Bencampwriaeth

Joe Mason, sgoriodd i Gaerdydd ar ddydd Llun y Pasg
Image caption Joe Mason, sgoriodd i Gaerdydd ar ddydd Llun y Pasg

Ar ôl y siom o golli i Peterborough ddydd Sadwrn mae Caerdydd wedi ymestyn eu mantais ar frig y Bencampwriaeth.

Tair gol i ddim oedd y sgor terfynol yn erbyn Blackburn Rovers gartre ar Ddydd Llun y Pâsg. Fe rwydodd yr ymosodwr Frazier Campbell cyn hanner amser. Mi lwyddodd Joe Mason i ddyblu'r fantais bum munud o'r diwedd. Yn hwyr yn y gêm mi sgoriodd Peter Whittingham gyda chic o'r smotyn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod gan Caerdydd 78 o bwyntiau ar ol 39 o gemau. 71 o bwyntiau sydd gan Hull, yn yr ail safle, ar ol chwarae yr un faint o gemau

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 39 24 78
2. Hull 39 10 71
3. Watford 39 24 67
4. Crystal P 40 13 65
5. Nottm Forest 40 7 61
6. Brighton 39 16 60