Cerddwyr yn dod o hyd i gorff

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Y corff ar lwybr ar Fwlch y Rhiwgyr ger Y Bermo.

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i ddau gerddwr ddod o hyd i gorff dyn ar lwybr.

Daethpwyd o hyd i'r corff yn Ne Eryri am 2pm ddydd Gwener.

Timau achub Aberdyfi a De Eryri gludodd y corff oddi ar y llwybr ar Fwlch y Rhiwgyr ger Y Bermo.

Dyw hi ddim yn glir sut y bu farw ond dywedodd plismyn nad oedd y farwolaeth yn amheus.