Seintiau Newydd yn bencampwyr

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Y Seintiau Newydd yw'r pencampwyr wedi iddyn nhw drechu Caerfyrddin gartre' o 3-0.

Maen nhw wedi cyflawni'r gamp am yr ail dymor yn olynol ac yn bencampwyr am y seithfed tro.

Scott Ruscoe sgoriodd y gôl gynta cyn i Michael Wilde rwydo ddwywaith.

Cafodd Casey Thomas o'r ymwelwyr ei anfon o'r cae.

Dydd Gwener:

Y Bala v Aberystwyth (Gohirio)

Airbus 4-1 Prestatyn

Dydd Sadwrn:

Bangor 3-3 Port Talbot

Cei Connah Lido Afan (Gohirio)

Llanelli 0-1 Y Drenewydd

Y Seintiau Newydd 3-0 Caerfyrddin

Dydd Llun:

Lido Afan v Y Drenewydd (2.30pm)

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol