Gêm gyfartal i Gasnewydd yn erbyn Gateshead oddi cartref

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Gêm gyfartal i Gasnewydd yn erbyn Gateshead

Gateshead 0-0 Casnewydd

Methu cyfle i godi o'r pedwerydd safle yn y tabl wnaeth Casnewydd nos Iau gyda gêm gyfartal ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Gateshead.

Roedd y gêm yma wedi ei gohirio bedair gwaith oherwydd y tywydd ac fe gafodd y gêm ei chynnal ar gae Boston Uited, York Street, oedd wedi golygu taith o 368 milltir i gefnogwyr Gateshead ar gyfer "gêm cartref".

York Street oedd y cae agosaf mwya' addas er mwyn i'r gêm gael ei chynnal cyn diwedd y tymor ar Ebrill 20.

Mae gan Gasnewydd dair gêm wrth gefn o'u cymharu â Kidderminster sydd ar frig y tabl ac wyth pwynt yn fwy na'r Alltudion.

Mae gan Mansfield a Wrecsam, sy'n ail a thrydydd, dair gêm wrth gefn hefyd.

Dydi Gateshead ddim wedi ennill dim ond un o'u chwe gêm ddiwethaf a dyma oedd y chweched tro i Gasnewydd fethu sgorio'r tymor yma.

Yr ymosodwr Aaron O'Connor gafodd ddau gyfle gorau'r gêm i Gasnewydd yn yr ail hanner.

Ond fe fethodd gyda'r ymgais gyntaf a chanfod y rhwyd wrth iddi wyro i'r dde ond fe wnaeth Adam Bartlett arbediad gwych i atal yr ail ymgais.

Fe fydd Casnewydd yn croesawu Dartford i Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol