BBC: Undebau ar streic 12 awr ddydd Iau

BBC Cymru
Image caption Fe fydd aelodau NUJ a Bectu ar streic 12 awr ddydd Iau

Fe fydd aelodau dau undeb sy'n gweithio yn y BBC yn mynd ar streic 12 awr ddydd Iau.

Bydd aelodau Undeb y Newyddiadurwyr (NUJ) a Bectu, sy'n cynrychioli staff technegol, yn cychwyn gweithredu am hanner dydd.

Mae'r undebau ar y cyd yn galw ar reolwyr y BBC i rewi diswyddiadau gorfodol am chwe mis er mwyn caniatáu trafodaethau gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd.

Dywedodd yr undebau y bydd y streic yn cael effaith ar raglenni, gan gynnwys bwletinau newyddion tra bod y BBC wedi dweud eu bod yn siomedig am y gweithredu ac ymddiheuro am unrhyw effaith ar raglenni.

Mae'r undebau am drafod diswyddiadau gorfodol, mwy o lwyth gwaith, bwlio, aflonyddu a straen, y cyfan sydd wedi ei greu gan doriadau swyddi flwyddyn ar ôl blwyddyn ac yn wyneb toriadau pellach, yn ôl yr undeb.

Mae'r gorfforaeth yn cau tua 2,000 o swyddi dros gyfnod o bum mlynedd fel rhan o'r cynllun Delivering Quality First.

Ym mhleidlais yr NUJ roedd 61% o blaid streic, tra bod y gefnogaeth ymhlith aelodau Bectu yn 56%.

'Arbedion sylweddol'

Dywedodd Michelle Stanistreet, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Newyddiadurwyr eu bod yn gweithredu i ddiogelu swyddi a newyddiaduraeth safonol yn y gorfforaeth.

"Mae'n destun siom unwaith eto bod y BBC wedi gwrthod ein galwad am foratoriwm er mwyn cynnal trafodaethau ystyrlon ar effeithiau'r toriadau," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gorfforaeth: "Mae'n rhaid i ni wneud arbedion sylweddol ac ni fydd y streic yn newid hyn.

"Rydym yn gweithio'n hynod galed i adleoli staff ac rydym eisoes wedi llwyddo i adleoli bron dwbl y nifer o bobl sydd wedi cael eu diswyddo."

Fis Chwefror fe wnaeth newyddiadurwyr y BBC sy'n aelodau o Undeb y Newyddiadurwyr gynnal streic undydd.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.