'Mesurau radical' wedi adroddiad iechyd damniol

Arwydd Ysbyty Stafford
Image caption Roedd adroddiad ar fethiannau Ysbyty Stafford wedi gwneud 290 o argymhellion

Mae Llywodraeth San Steffan wedi bod yn manylu ar eu hymateb i'r ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau yn Ysbyty Stafford.

Yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Jeremy Hunt, y byddai nifer o "fesurau radical" yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau i fod yn onest gyda chleifion a'r posibilrwydd o erlyn meddygon neu nyrsys fyddai'n celu camgymeriadau.

Mae'r mesurau'n cynnwys cynlluniau i newid y modd mae staff, yn enwedig nyrsys, yn cael eu hyfforddi.

Er nad oedd Llywodraeth Cymru'n rhan o'r trafodaethau diweddaraf, maen nhw'n dweud bod 'na ganllawiau penodol wedi'u cyflwyno yng Nghymru wrth benodi nyrsys a bydwragedd.

Marwolaethau di-angen

Roedd yr ymchwiliad cyhoeddus i'r sefyllfa yn Ysbyty Stafford yn honni bod cleifion wedi cael eu "bradychu", a'u bod wedi dioddef yn erchyll, gyda channoedd wedi marw'n ddiangen rhwng 2005 a 2008.

Yn ôl ystadegau ar y pryd, roedd rhwng 400 a 1,200 yn fwy o farwolaethau na'r hyn fyddai'n ddisgwyliedig.

Roedd yr ymchwiliad £13 miliwn, a gyhoeddwyd ddechrau mis Chwefror, wedi gofyn yn benodol pam na ddaeth y methiannau i'r amlwg yn gynt.

290 o argymhellion

Gwnaethpwyd 290 o argymhellion ond dyw Llywodraeth y DU ddim yn ymateb iddyn nhw i gyd.

Wedi i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau na fyddai methiannau o'r fath yn digwydd yng Nghymru, a'u bod yn credu bod y "sylfeini" yno i sicrhau hynny.

Ddydd Mawrth dywedon nhw nad oeddynt yn rhan o'r trafodaethau arweiniodd at y cynlluniau diweddaraf ond bod rhai canllawiau cyflogaeth eisoes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.

"Mae Cymru'n unigryw o fewn y DU, o ran ei bod hi'n ofynnol ar bob ymgeisydd ar gyfer cyrsiau nyrsio neu fydwreigiaeth yn y brifysgol i ddarparu geirda personol ...," meddai llefarydd.

'Geirda'

"Os yw'r unigolyn wedi gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, mae angen i'r geirda ddod o'r maes a chael ei gymeradwyo gan weithwyr proffesiynol yn y maes.

"Cafodd y geirda personol, sy'n cydfynd â'r geirda academaidd, ei gyflwyno ym mis Medi 2009.

"Mae'n canolbwyntio ar gryfderau personol: hunanymwybyddiaeth, moesgarwch, caredigrwydd, gofal, gonestrwydd, trugaredd, ymddiriedaeth a'r gallu i gyfathrebu'n dda."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd angen gweld manylion yr adroddiad yn llawn cyn gwneud unrhyw sylw penodol am gynlluniau i Gymru.

Straeon perthnasol