Cyfres aml-blatfform gan gynhyrchwyr Pobol y Cwm
- Cyhoeddwyd

Mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm, BBC Cymru, yn torri tir newydd gyda chyfres aml-blatfform arloesol ar y we.
Fe fydd y gyfres i'w gweld ar wefan S4C.
Er bod PYC yn seiliedig ar rai o gymeriadau'r opera sebon nosweithiol, mae'r straeon yn fwy pigog a'r profiad yn wahanol.
Bwriad y prosiect yw apelio at oedolion ifanc ac mae'r awduron yn chwilio am ffyrdd gwahanol i adrodd stori.
Dywed y cynhyrchwyr bod y straeon yn sefyll ar eu traed eu hunain, heb amharu ar lif y gyfres deledu, Pobol y Cwm.
Bydd y cyfan i'w weld ar wefan PYC (s4c.co.uk/pyc) a fydd yn cael ei chyhoeddi ar Ebrill 2.
Cyhoeddir pennod fer yn nosweithiol gan ddechrau ar Ebrill 8 am 9pm am wythnos.
'Cynulleidfa newydd'
Bydd cyfle gan wylwyr i ddilyn helyntion y cymeriadau ar Twitter (@s4cPyc) a thrafod y straeon sy'n gwthio'r ffiniau ar Facebook.
Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: "Mae hwn yn brosiect sydd wedi'i ddatblygu ar y cyd gyda S4C ac rydym yn hyderus y bydd y cynnwys aml-blatfform yn apelio at gynulleidfaoedd newydd.
"Mae Pobol y Cwm yn un o'n dramâu mwyaf poblogaidd felly mae'n bwysig ein bod yn parhau i chwilio am ffyrdd o ehangu apêl y gyfres ac i fod ar flaen y gad wrth arbrofi gyda thechnegau creadigol o adrodd stori."
Cynhyrchydd PYC yw Hannah Thomas, sy'n brofiadol iawn yn y byd aml-blatfform.
Bu'n cynhyrchu Becoming Human ar gyfer Touchpaper a'r BBC ac fe gafodd y prosiect ei enwebu ar gyfer gwobr yng ngŵyl ffilm Banff, Canada.
'Profiad newydd'
"Mae hyn yn gyfle gwych i ni fynd o dan groen rhai o'n prif gymeriadau ac i gyflwyno rhai newydd, ffres," eglurodd.
"Yn ogystal, mae PYC yn blatfform gwych i ni ddatblygu talent newydd y tu ôl - ac o flaen y camera."
Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, eu bod yn falch o gydweithio gyda BBC Cymru er mwyn darparu platfform ar gyfer PYC ar eu gwefan ac i gynnig profiad newydd i'n gwylwyr.
"Mae PYC yn fenter sy'n manteisio ar y dulliau diweddaraf o wylio rhaglenni ac yn ehangu darpariaeth S4C y tu hwnt i'r teledu - rhywbeth yr ydym yn awyddus i wneud mwy ohono, lle bo'n addas, wrth i arferion gwylio droi'n gynyddol at ddyfeisiau a thechnoleg newydd."
Straeon perthnasol
- 7 Rhagfyr 2012
- 6 Rhagfyr 2011
- 18 Ionawr 2010