Llanelli'n ennill unig gêm y dydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Lido Afan 1-3 Llanelli

Gyda'r eira yn difetha'r amserlen yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn dim ond un gêm gafodd ei chwarae a honno yn hanner isa'r tabl.

Lido Afan oedd yn croesawu Llanelli, ond yr ymwelwyr enillodd y triphwynt.

Aeth Llanelli ar y blaen wedi llai na chwarter awr diolch i gôl gan Craig Moses.

Doedd dim syndod gweld y tîm cartref yn cael trafferthion gan eu bod nhw bellach 13 pwynt y tu ôl i'r gweddill ar waelod y tabl.

Ond fe welodd Craig Moses y cerdyn coch wedi 28 munud, ac roedd rhaid i Lanelli chwarae gweddill y gêm gyda 10 dyn.

Er hynny fe ddaeth yr ail er bod rhaid aros tan 65 munud amdani gyda Jordan Smith yn rhwydo i Lanelli.

Ond roedd mwy i ddod yn y munudau olaf.

Yn gyntaf fe gipiodd Chris Hartland gôl i Lido Afan i godi'r gobeithion am ddiweddglo dramatig dim ond i Jack McKenna gael y drydedd i'r ymwelwyr gyda chic olaf y gêm bron.