Gwerthu drama fer gan Cynan

Archdderwydd, bardd o fri ac enillydd coron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynan oedd testun ffilm liw Gymraeg gyntaf y BBC, Y Llanc o Lŷn yn 1970.
Image caption Archdderwydd, bardd o fri ac enillydd coron a chadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynan oedd testun ffilm liw Gymraeg gyntaf y BBC, Y Llanc o Lŷn yn 1970.

Cafodd drama fer gan y cyn-Archdderwydd Cynan yn cael ei gwerthu mewn ocsiwn ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn.

Roedd disgwyl i'r pris gyrradd rhwng £180-£250 ond fe werthodd am £300.

Mae 'Hafod Ucha' yn adrodd stori am anghydfod o fewn teulu sy'n ffermio ar dir mynyddig.

Nid yw'r ddrama erioed wedi cael ei chyhoeddi na'i pherfformio.

Credir i'r ddrama gael ei hysgrifennu yn 1948.

Ymhlith yr eitemau eraill fydd ar werth yn Ocsiwn Rogers Jones Co yn Ffordd Abergele fydd paentiadau gan Kyffin Williams, William Selwyn, Josef Herman, Donald McIntyre, Wilf Roberts, Will Roberts, Gwilym Pritchard, Ceri Richards, John Elwyn a Gareth Parry.

Mae tudalen-deitl llawysgrif Cynan yn cynnwys cyflwyniad i ffrind iddo, sef tad-cu y person sy'n gwerthu'r ddrama.

Enw barddol

Ganwyd Albert Evans-Jones ym Mhwllheli yn fab i siopwr lleol ar Ebrill 14, 1895. Yn 1916 graddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor a mynd i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod yn Gaplan a gwasanaethu ym Macedonia.

Ei enw barddol oedd Cynan ac fel Cynan y câi ei adnabod gan y rhan fwyaf o bobl Cymru.

Yn 1921 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am ei bryddest boblogaidd, Mab y Bwthyn, ac ym marn un awdurdod ar ei waith, Dafydd Owen, hon oedd "y gerdd fwyaf poblogaidd yng Nghymru yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf".

Daeth ei gerddi telynegol eraill, fel Anfon Nico, yn hynod boblogaidd ar lawr gwlad hefyd.

Tad Seremoni Barddol

Yn ystod dauddegau'r ugeinfed ganrif, bu'n weinidog ym Mhenmaenmawr ac yna'n ddarlithydd ym Mangor o 1931 i 1960.

Yn 1931 cafodd ei benodi'n Ddarllenydd dramau Cymreig ar ran yr Arglwydd Chamberlain. Fe wnaeth gyflawni'r swydd yma tan ddiddymiad sensoriaeth yn 1968. Roedd yn sensor rhyddfrydig -er enghraifft, fe wnaeth roi caniatad i ddrama James Kitchener Davies, 'Cwm Glo' drama oedd, medd beirniaid y dydd, yn llawn 'mochondra', i gael ei pherfformio wedi iddi ennill y Wobr Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1968.

Enillodd Goron yr Eisteddfod dair gwaith a'r Gadair unwaith am ei awdl, 'I'r Duw nid Adwaenir, yn 1924'. Etholwyd ef yn Archdderwydd ddwywaith rhwng 1950-1953 a 1963-67.

Cynan yn anad neb oedd yn gyfrifol am lunio seremoni y cadeirio a'r coroni fel rydym yn eu hadnabod heddiw gan geisio creu seremoni fodern a fyddai, yn ei dŷb ef, yn adlewyrchu ysbryd y genedl.

Gwnaethpwyd ef yn farchog yn 1969 am ei wasanaeth i fywyd diwylliannol Cymru a dewisodd y teitl Syr Cynan Evans-Jones. Bu farw yn 1970 ac mae wedi'i gladdu ar Ynys Tysilio ar lan y Fenai.

Hefyd ar y BBC