Carchar i ddyn adawodd ei gariad i farw
- Cyhoeddwyd

Mae dyn oedd yn yfed a gyrru cyn gadael ei ddyweddi i farw mewn car wedi gwrthdrawiad wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.
Roedd Ceiron Cook, 36 oed o Ddowlais, Merthyr Tudful, wedi rhedeg adre ac i'r gwely, gan adael Lynsey Popp, 28 oed, i farw mewn car ar ffordd wledig.
Clywodd Llys y Goron Merthyr fod gyrwyr eraill wedi sylwi ar y car oedd taro coeden gyda Miss Popp yn sedd y teithiwr.
Plediodd Cook yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal a phan oedd wedi yfed gormod.
Dim yswiriant
Dywedodd yr erlynydd Rachel Knight: "Roedd y car wedi taro coeden ond yn hytrach na galw'r gwasanaethau brys fe redodd oddi yno, gan ei gadael yn farw neu yn marw.
"Roedd hi'n beth amser cyn i ddau berson oedd yn gyrru heibio ffonio'r awdurdodau.
"Fe sylwon nhw fod y car yn oer a bod neb yn sedd y gyrrwr."
Fe gludwyd Miss Popp, mam i ddau o blant, i'r ysbyty, ond roedd wedi marw o anafiadau niferus.
Clywodd y llys nad oedd gan Cook yswiriant ac mai trwydded yrru dros dro oedd ganddo ac roedd hanes o yrru heb yswiriant a phan oedd wedi ei wahardd.
Dywedodd fod y gwrthdrawiad mewn eira a rhew.
Wth ei amddiffyn dywedodd Lucy Crowther: "Y gwir amdani yw nad oes ots ganddo faint fydd y ddedfryd oherwydd ni fydd yn gallu maddau i'w hunan."
Roedd gan Cook 124mg o alcohol ymhob 100ml o waed yn ei gorff - yr uchafswm cyfreithiol yw 80 - ac roedd wedi bod yn smygu canabis noson y digwyddiad.
Dywedodd y Barnwr Richard Twomlow: "Mae'n ymddangos bod Lynsey wedi marw yn syth. Does dim y gallaf ei ddweud i leddfu colled a galar ei theulu."