Cyhuddo dyn o geisio llofruddio dynes yn Ninbych y Pysgod

Mae dyn o Ddinbych-y-Pysgod wedi cael ei gadw yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn achos o drywanu.

Mae Stephen Daniel Williams, 30, yn cael ei amau o geisio lladd Joanna Elizabeth Hall mewn eiddo yn y dre' ddydd Sadwrn.

Mae hi mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.

Bydd Mr Williams yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe yn ddiweddarach yn y mis.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.