Abertawe 0-2 Arsenal

Cyhoeddwyd

Fe wnaeth goliau gan Nacho Monreal a Gervinho sicrhau buddugoliaeth i Arsenal yn y Liberty.

Hon oedd gôl gyntaf Monreal i Arsenal wrth iddynt geisio sicrhau lle yn y pedwar uchaf a'r hawl i gystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Daeth ei gôl yn dilyn cic cornel.

Fe wnaeth yr eilydd Gervinho sicrhau buddugoliaeth yn yr amser oedd wedi ei ychwanegu.

Fe wnaeth Michu ddod yn agos i sgorio i Abertawe yn ystod cyfnod gorau'r gêm i'r tîm cartref yn 20 munud gynta'r ornest.

Hwn oedd y trydydd tro i'r Elyrch golli gartref y tymor hwn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol