Tetra Pak i adleoli o Wrecsam i Gaer

Cyhoeddwyd

Mae cwmni Tetra Pak wedi penderfynu cau ei safle yn Wrecsam a symud i i safle arall yng Nghaer.

Mae 80 o weithwyr yn gweithio i'r cwmni ar Ystâd Diwydiannol Wrecsam.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn Sweden dros 50 mlynedd yn ôl ac maen nhw'n cynhyrchu cartonau ar gyfer llaeth a suddion.

Penderfynodd y cwmni ddiswyddo 150 o bobl yn y ffatri yn Wrecsam yn 2011.

'Denu swyddi'

Dywedodd Aelod Seneddol De Clwyd, Ken Skates ei fod yn siomedig iawn i glywed y newyddion.

"Byddaf yn pwyso ar y cwmni i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael y cyfle i barhau i weithio gyda'r cwmni," meddai.

"Mae Tetra Pak wedi bod yn ardal Wrecsam ers 30 mlynedd ac rwy'n siomedig iawn ynglŷn â'r penderfyniad."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol