Enwi cerddwr fu farw ar yr A465

Heddlu
Image caption Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.

Mae Heddlu Gwent wedi enwi'r cerddwr gafodd ei ladd wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Fynwy.

Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr A465 rhwng y troad i'r Fenni a Chylchfan Hardwick tua 7pm nos Fercher.

Roedd Mark Anthony Francis yn 46 oed.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y cerddwr o'r Blaenau ger Brynmawr wedi marw yn y fan a'r lle.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.