Diodydd alcohol
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder am beidio gosod isaafswm ar alcohol

13 Mawrth 2013 Diweddarwyd 21:47 GMT

Mae ymgyrchwyr iechyd wedi rhybuddio y byddai'n 'drychineb' pe tai Llywodraeth San Steffan yn rhoi'r gorau i gynlluniau i osod isafswm pris ar uned o alcohol.

Mi oedd David Cameron yn cefnogi isafswm o 45 ceiniog yr uned.

Ond mae 'na awgrym ei fod o'n newid ei feddwl ac wedi ildio i bwysau gan y Swyddfa Gartre a'r Trysorlys.

Adroddiad Aled Huw.