Ryan Jones allan o dîm Cymru fydd yn wynebu Lloegr

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunCafodd Ryan Jones ei anafu wedi 48 munud o'r gêm yn erbyn Yr Alban

Ar ôl cael anaf i'w ysgwydd yn y gêm rhwng Cymru a'r Alban fydd Ryan Jones ddim ar gael i wynebu Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm.

Fe gafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn cynhadledd i'r wasg gan dîm Cymru ddydd Mawrth.

Fe fydd Cymru a Lloegr yn herio'i gilydd ddydd Sadwrn, gyda'r ddau dîm yn gobeithio am fuddugoliaeth a fyddai'n sicrhau'r bencampwriaeth a'r Gamp Lawn i Loegr.

Bu'n rhaid i Jones, sy'n dathlu ei benblwydd yn 32 oed yr wythnos hon, adael y maes wedi 48 munud ddydd Sadwrn ar ôl cael ei anafu.

Capteniaeth?

Justin Tipuric ddaeth ymlaen fel eilydd i Jones ac mae disgwyl iddo gychwyn y gêm yn erbyn Lloegr.

Fe fydd y tîm yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Sam Warburton gymerodd drosodd fel capten am weddill y gêm yn erbyn Yr Alban.

Ond mae'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Martyn Williams wedi awgrymu mai Alun Wyn Jones ddylai gymryd y gapteniaeth drosodd petai Jones ddim ar gael.

Roedd buddugoliaeth Cymru yn Murrayfield ddydd Sadwrn y pumed fuddugoliaeth oddi cartref yn olynol i'r Crysau Coch.

Wedi i Loegr guro'r Eidal yn Twickenham o 18-11 ddydd Sul, byddai buddugoliaeth yn erbyn Cymru yn sicrhau Camp Lawn iddyn nhw - y cynta' mewn degawd.

Ond petai Cymru'n ennill o wyth pwynt neu fwy, a sicrhau eu bod yn sgorio mwy o geisiau na Lloegr yn y bencampwriaeth, tîm Rob Howley fyddai'n amddiffyn y teitl.

Bydd ennill o 7 pwynt yn gweld Cymru'n cadw'u gafael ar y bencampwriaeth am gael mwy geisiau oni bai bo' Lloegr yn cael dau neu fwy o geisiau, bryd hynny fe fydd Cymru a Lloegr yn rhannu'r teitl.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol