Dim ysmygu ym mharciau Gwynedd o hyn ymlaen
- Cyhoeddwyd

O ddydd Mawrth ymlaen mae 'na ymgyrch i atal pobl rhag ysmygu mewn meysydd chwarae i blant yng Ngwynedd.
Fel rhan o bolisi newydd y cyngor, bydd tua 130 o gaeau chwarae i blant dan eu rheolaeth yn dod yn feysydd di-fwg.
Mi fydd arwyddion yn cael eu gosod hefyd ar gaeau ysgolion a chanolfannau hamdden.
Dyma'r trydydd cyngor yng Nghymru i gyflwyno gwaharddiad ysmygu mewn meysydd chwarae ar ôl Caerffili a Phowys.
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn cydweithio gydag awdurdodau i gyflwyno meysydd chware di-fwg.
Dylanwad oedolion
Dywedodd y Cynghorydd Paul Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gwynedd Iach, bod tystiolaeth yn dangos bod plant sy'n gweld oedolyn yn ysmygu yn rheolaidd ddwywaith yn fwy tebygol o ddechrau ysmygu eu hunain.
"Mae gweld oedolyn yn ysmygu yn rheolaidd yn cael dylanwad.
Llyr Edwards gafodd ymateb pobl Dolgellau i waharddiad Cyngor Gwynedd ar ysmygu mewn meysydd chwarae'r sir
"Fyddwn i ddim yn cynnal ymgyrch a fydd yn cosbi, dwi'n siŵr y byddai'n anodd iawn plismona hyn gan fod 'na gymaint o gaeau chwarae.
"Ymgyrch ydy hyn i drio annog pobl i wneud y peth iawn.
"Rydan ni'n anfon y neges, gwnewch y peth cywir."
Dywedodd ei fod yn credu bod y gwaharddiad mewn tafarndai wedi bod yn llwyddiannus iawn a bod pobl "yn gwybod bod 'na leoedd cyhoeddus lle nad ydi hi'n dderbyniol i ysmygu".
Fel rhan o'r cynllun cafodd cystadleuaeth agored ei chynnal i blant ysgolion Gwynedd i ddylunio arwydd newydd a fydd yn ymddangos yn y meysydd chwarae.
Straeon perthnasol
- 6 Gorffennaf 2012
- 19 Chwefror 2013
- 10 Ionawr 2013