Abertawe: Rangel i aros tan 2016

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae amddiffynnwr Clwb Pêl Droed Abertawe Angel Rangel wedi ymestyn ei gytundeb â'r Elyrch gan olygu y bydd yn aros yn Stadiwm Liberty tan 2016.

Roedd cytundeb gwreiddiol Rangel, 30 oed, fod i ddod i ben ym Mehefin 2014.

Mae Rangel wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiant yr Elyrch ers iddo ymuno â nhw o glwb Terrassa yn Sbaen chwe blynedd yn ôl.

Roedd yn aelod o'r tîm wnaeth guro Bradford City 5-0 i gipio Cwpan Capitol One yn ddiweddar sy'n golygu bydd yr Elyrch yn chwarae yng Nghwpan Europa y tymor nesaf.

'Gwobrwyo'

Mae Rangel, Michu, Leon Britton, Wayne Routledge a Garry Monk wedi arwyddo cytundebau newydd yn y misoedd diwethaf.

"Rwy'n hapus yma, rwyf wedi priodi merch Gymreig ac rwy'n adeiladu tŷ yn Abertawe," meddai Rangel.

"Rwy'n teimlo fel Cymro erbyn hyn."

"Mae'r ffaith fod gymaint o chwaraewyr wedi arwyddo cytundebau newydd yn dangos bod pethau yn mynd yn dda yma.

"Mae'r clwb yn sylweddoli bod y chwaraewyr yn gwneud yn dda ac mae'r bwrdd a'r cadeirydd, Huw Jenkins, yn ein gwobrwyo am ein llwyddiant."

Mae Abertawe yn yr wythfed safle yn yr Uwchgynghrair ar hyn o bryd gyda 40 pwynt.

Bydd yr Elyrch yn teithio oddi cartref i herio West Bromwich Albion (3pm) ddydd Sadwrn.