Thomas Cook: Chwe siop o dan fygythiad
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni teithio wedi dweud y bydd 2,500 o swyddi'n diflannu a 200 o siopau'n cau oherwydd ailstrwythuro.
Bydd y rhan fwya' o'r swyddi'n weinyddol ond mae'r siopau canlynol yng Nghymru o dan fygythiad: Wrecsam (8 o weithwyr), Glyn Ebwy (4), Crughywel (2), Pontypridd (5), Y Barri (4) ac Aberystwyth (4).
Dywedodd llefarydd: "Dyw hyn ddim yn benderfyniad hawdd ond mae angen i'r busnes er lles y cwsmer fod yn effeithlon ac i'n costau gweinyddol fod yn isel."
Bydd cyfnod ymgynghori am 90 diwrnod yn dechrau'n fuan.
Y bwriad yw cau 195 o siopau ar y Stryd Fawr a thorri swyddi yn eu prif swyddfeydd yn Peterborough a Preston.
Bydd swyddfa Accrington yn cau.
Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 15,500.
Aeth y cwmni i drafferthion yn 2011 oherwydd ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac roedd dyledion o £788m.
Ym Mai 2012 roedd pecyn o £1.4bn yn golygu bod modd ad-dalu dyledion o fewn tair blynedd.
Straeon perthnasol
- 5 Rhagfyr 2011
- 16 Gorffennaf 2011