Damwain farwol: Cyhuddo dyn o'r Fenni

Mae dyn 24 oed o ardal Y Fenni yn wynebu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal wedi gwrthdrawiad ar yr A465.

Bu farw Glyndŵr Evans o Lyn-nedd a Philip Bath o Nant-y-glo oherwydd damwain ym mis Hydref.

Roedd car Peugeot 106 mewn gwrthdrawiad â dau feic modur ar Heol Blaenau'r Cymoedd ger Clydach ar Hydref 27.

Bydd y dyn gerbron Ynadon Caerffili ar Fawrth 21.