Cau lladd-dy oherwydd pryderon

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl y cwmni maen nhw'n gobeithio ail agor yn fuan.

Mae lladd-dy yn Sir Benfro wedi ei gau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd oherwydd pryderon ynglŷn â diogelwch y prosesau cynhyrchu yno.

Cafodd safle'r Pembrokshire Meat Company ger Hwlffordd ei gau, ond does gan hyn ddim i'w wneud â'r sgandal diweddar ynglŷn â chig ceffyl.

Yn ôl y cwmni maen nhw'n gobeithio ail agor yn fuan.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol